Mitrovica
Mitrovica Mitrovica or Mitrovicë (Albanian) Косовска Митровица/Kosovska Mitrovica (Serbeg) | ||
---|---|---|
City and municipality | ||
Ibar Bridge, Sitnica river, Miners Monument, Ibar River, St. Dimitri Orthodox Church, Former Jadran Hotel, Sand's Mosque, Mitrovica at night panoramic view. | ||
| ||
Location of the city of Mitrovica within Kosovo | ||
Cyfesurynnau: 42°53′N 20°52′E / 42.883°N 20.867°E | ||
Country | Kosovo | |
District | District of Mitrovica | |
Llywodraeth | ||
• Mayor | Agim Bahtiri | |
• Mayor of North Mitrovica | Goran Rakić | |
Arwynebedd | ||
• Tir | 331 km2 (128 mi sg) | |
• Trefol | 15.983 km2 (6.171 mi sg) | |
Uchder | 500 m (1,600 tr) | |
Poblogaeth (2011)[1] | ||
• City and municipality | 84,235 | |
• Dinesig |
| |
• Metro |
| |
Parth amser | CET (UTC+1) | |
• Summer (DST) | CEST (UTC+2) | |
Postal code | 40000 | |
Cod ffôn | +383 28 | |
Car plates | 02 | |
Website | kk.rks-gov.net/mitrovice |
Mae Mitrovica (Albaneg: Mitrovicë, Serbeg: Kosovska Mitrovica, Косовска Митровица) yn ddinas yng ngwladwriaeth Cosofo ar lannau'r afonnydd Ibar a Sitnica. Hi yw dinas weinyddol Cyngor Dosbarth Mitrovica.
Yn dilyn Argyfwng Gogledd Cosofo yn 2013, sefydlwyd bwrdeisdref Gogledd Mitrovica ar gyfer y mwyafrif Serbeg sy'n byw yn rhan honno'r ddinas. Gan hynny, rhannwyd y ddinas yn ddwy uned weinyddol, ond ill dau o fewn fframwaith gyfreithiol Cosofo.
Yn ôl cyfrifiad 2011, poblogaeth Mitrovica oedd 84,235. Roedd 71,909 o'r rheini yn ochr ddeheuol (mwyafrifol Albaneg) y ddinas, ac yng nghyfrifiad 2011, 12,326 yn y gogledd[2].
Enw
[golygu | golygu cod]Daw enw'r ddinas o'r enw Groeg, Demetrius. Mae'n debyg y cafodd ei enwi ar ôl yr eglwys Fesantin o'r g8, St. Demetrius, a adeiladwyd ger caer Zvecan, ychydig uwchben Mitrovica fodern, yn anrhydedd Sant Demetrius o Thessaloniki. Gelwir y ddinas D(i)mitrovica nes iddo syrthio o dan y rheolaeth Otomanaidd.[3] Yn 1660, soniodd y teithiwr Otmanaidd, Evliya Çelebi,am y ddinas am y tro cyntaf gyda'r enw Mitrovica.[4][5]
Ar ôl marwolaeth yr Arlywydd Tito, roedd yn rhaid i bob un o'r rhannau cyfansoddol Iwgoslafia gael un lle wedi ei henwi gyda'r gair "Tito" ynoddo. O ganlyniad, ail-enwyd y ddinas yn Titova Mitrovica (Титова Митровица) yn Serbeg neu Mitrovica e Titos yn Albaneg, tan 1991.
Mae'r ddinas bellach yn cael ei alw'n Mitrovica neu Mitrovicë yn Albaniaeg a Kosovska Mitrovica (Косовска Митровица) yn yr iaith Serbeg.
Demograffeg
[golygu | golygu cod]Adnabyddir Mitrovica gan ei gwahaniaeth ethnig amlwg sy'n cael eiddominyddu gan Albaniaid ac yn Serbiaid. Ond ceir hefyd Bosniaks, Twrciaid, Romani a grwpiau ethnig eraill. Yn rhan ddeheuol y ddinas, mae'r Albaniaid yn cynrychioli 96.65% o'r holl boblogaeth gyda niferoedd bychain o Roma, Twrciaid, Bosniaks ac eraill. Yn ôl cyfrifiad 2011 dim ond 14 Serb sy'n byw ym mwrdeisdref ddeheuol Mitrovica.
Grŵp | Poblogaeth | Canran |
---|---|---|
Albaniaid | 69,497 | 96.65% |
Serbiaid Cosofo | 14 | 0.02% |
Twrciaid Cosofo | 518 | 0.72% |
Bosniakiaid Cosofo | 416 | 0.58% |
Roma | 528 | 0.73% |
Ashkali | 647 | 0.9% |
Eifftwyr Ashkali | 6 | 0.01% |
Gorani | 23 | 0.03% |
Eraill | 47 | 0.07% |
Ddim am ateb | 61 | 0.08% |
Not available | 152 | 0.21% |
Cyfanswm | 71,909 | 100% |
Gan na wnaeth Gogledd Mitrovica ymgymryd yn y cyfrifiad yn Ebrill 2011, cymerwyd y data oddi ar diweddariad 2008-2009 gan Asiantaeth Ystadegau Cosofo a dderbynir fel y data swyddogol gan lywodraeth y wlad. Ond mae gan wahanol sefydliadau amcangyfrifol eraill hefyd.
Yng Ngogledd Mitrovica, yn ôl diweddariad 2009, a wnaethpwyd gan Asiantaeth Ystadegau Cosofo, mae'r Serbiaid a grwpiau ethnig eraill yn gyfrifol am 92.97% neu 11,459 o'r trigolion tra bod 7.03% neu 867 yn Albaniaid.
Grŵp | Poblogaeth | Canran |
---|---|---|
Albaniaid | 867 | 7.03% |
Serbiaid a grwpiau eraill | 11,459 | 92.97% |
Cyfanswm | 12,326 | 100% |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Kosovo Population Census 2011". Cyrchwyd 31 May 2017.
- ↑ "2011 Census: Mitrovica (demographics)". Kosovo Agency of Statistics/OSCE.
- ↑ name="KNBook">Grujić, Petar V. (2014). KOSOVO KNOT (yn Saesneg). Dorrance Publishing. t. 5. ISBN 9781480998452. Cyrchwyd 4 February 2018.
- ↑ name="HDKBook">Elsie, Robert (2010). Historical Dictionary of Kosovo (yn Saesneg). Scarecrow Press. t. 97. ISBN 9780810874831. Cyrchwyd 4 February 2018.
- ↑ name="KNBook"
- ↑ Population by ethnic /cultural background sex and municipality 2011[dolen farw] Data for South Mitrovica
- ↑ name="Estimation of Kosovo population 2011"