Oriol Junqueras
Oriol Junqueras | |
---|---|
Ffugenw | El Mossèn |
Ganwyd | Oriol Junqueras i Vies 11 Ebrill 1969 Sant Andreu de Palomar |
Man preswyl | Sant Vicenç dels Horts, Sant Andreu de Palomar |
Dinasyddiaeth | Catalwnia |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | gwleidydd, hanesydd, academydd, llenor, sgriptiwr |
Swydd | Cadeirydd y Chwith Weriniaethol Catalwnia, Arweinydd yr Wrthblaid yng Nghatalwnia, Aelod o Senedd Catalwnia, Cynghorydd ar Gyngor Reus, Maer Sant Vicenç dels Horts, Is-Lywydd Catalwnia, Y Gweinidog dros yr Economi a Chyllid, Catalwnia, Aelod o Senedd Catalwnia, Aelod o Senedd Catalwnia, Aelod Senedd Ewrop, Aelod o Gyngres Dirprwyon Sbaen, Aelod Senedd Ewrop |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Esquerra Republicana de Catalunya |
Priod | Neus Bramona |
Gwefan | http://www.junqueras.cat |
llofnod | |
Gwleidydd, hanesydd a chyn-Arlywydd Catalwnia yw'r Dr Oriol Junqueras i Vies (ynganiad Catalaneg: [uɾiˈɔɫ ʒuŋˈkeɾəz i ˈβi.əs]; ganwyd 11 Ebrill 1969).[1] Ef oedd Is-Lywydd Generalitat de Catalunya rhwng Ionawr 2016 a Hydref 2017. Bu'n faer Sant Vicenç dels Horts ac yn llywydd y blaid Esquerra Republicana de Catalunya, ERC ers 17 Medi 2011.
Yn Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015 sefydlodd Junts pel Sí ('Ie gyda'n Gilydd') a enillodd 62 o seddi allan o 135 yn Llywodraeth Catalwnia.[2]
Addysg a gwaith cynnar
[golygu | golygu cod]Treuliodd ei flynyddoedd cynnar mewn ysgol Eidalaidd ym Marcelona cyn astudio economeg ym Mhrifysgol Barcelona, a graddio mewn Hanes cynnar a modern ac yna Doethuriaeth mewn Hanes y Meddylfryd Economeg gan ganolbwyntio o'r 17g i'r cyfnod modern.[3]
Mae'n ddarlithydd rhan amser ym Mhrifysgol Ymreolaethol Barcelona ac wedi cyfrannu'n helaeth i raglenni radio a theledu ar hanes a gwleidyddiaeth ee En Guàrdia ac El nas de Cleòpatra, ar Radio Catalwnia, Minoría absoluta ac El Món ar RAC 1 ac El favorit (2005) ar TV3; gweithiodd hefyd fel ymgynghorydd rhaglenni dogfen, teledu megis Els Maquis, La guerra silenciada a Conviure amb el risc.
Carcharu
[golygu | golygu cod]Ar 2 Tachwedd 2017, yn dilyn Datganiad o Annibyniaeth gan Lywodraeth Catalwnia, fe'i carcharwyd gan Lys Cenedlaethol Sbaen, ynghyd ag aelodau eraill o'r Llywodraeth, oherwydd ei ymgyrch dros annibyniaeth Catalwnia.
Sefydlodd glymblaid Gweriniaeth Chwith Catalwnia-Catalwnia Ie (ERC–CatSí) i ymladd Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2017, gan wneud hynny o'r carchar. Enillodd ei blaid 6 sedd ychwanegol gan ddod yr ail blaid mwyaf: cyfanswm o 26 sedd.
Yng Ngorfennaf 2018 symudwyd Junqueras i garchar Lledoners, Catalwnia. Cafwyd sawl protest yn erbyn ei garchariad o flaen drysau'r carchar. Yn rhagfyr 2018, cyoeddodd y International Association of Democratic Lawyers ddatganiad y dylid ei ryddhau (a'r gwleidyddion eraill a garcharwyd) ar unwaith.[4] Ar 1 Chwefror 2019, trosglwyddwyd ef i garchar ym Madrid, yn barod ar gyfer achos llys yn ei erbyn.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Disposición 12327 del BOE; consulta=28 10 2017; llengua=castellà; gol: Gobierno de España; 27 Hydref 2017
- ↑ Minder, Raphael (2015-09-27). "Separatists in Catalonia Win Narrow Majority in Regional Elections". The New York Times. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2016-01-15.
- ↑ "Oriol Junqueras (biography from official website)" (yn Catalan). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-15. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2012.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "IADL calls for release of Catalan political prisoners". International Association of Democratic Lawyers. 3 Rhagfyr 2018. Cyrchwyd 30 December 2018.
- ↑ Congostrina, Alfonso L. (2019-02-01). "Catalan independence leaders moved to Madrid jails ahead of trial". El País (yn Saesneg). ISSN 1134-6582. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-03. Cyrchwyd 2019-02-02.