Neidio i'r cynnwys

Pysgota yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia

Nid un o brif ddiwydiannau Cymru yw pysgota, ond mae gan y wlad nifer o borthladdoedd pysgota bychain, yn ogystal â'r prif borthladd yn Aberdaugleddau, a channoedd o gychod pysgota. Y prif ddalfaoedd yw cregyn bylchog, penfras, cimychiaid, a chathod môr.

Dylliau pysgota cartref

[golygu | golygu cod]
  • Tryfera

Dull o bysgota ar droed neu drwy nofio mewn basddwr am ledod yn bennaf, gyda phicell triphig a elwir yn 'tryfar', oedd hyn. Dyma hanes leol am y dull gan Celt Roberts o Dalsarnau, heb fod nepell o'r Traeth Bach, Morfa Harlech lle'r arferid y traddodiad tan yn ddiweddar.

"Thomas ac Evan Jones – tad a mab [llun ym Mwletin Llên Natur rhifyn 38 (tud. 2)[1]. Roedd Evan Jones yn hynod am ddal lledod ar y traeth. Nofiai gydag un fraich a thryfar yn y llall ac nid peth anarferol oedd cael helfa dda. Pryd tynnwyd y llun? Dim gwybodaeth, ond dyma ddyddiadau’r ddau – Thomas Jones 1814-1900 ac Evan Jones 1859 – 1928. Hen daid i Derwyn Evans oedd Evan Jones. Derwyn yw’r gŵr fu’n gweithio am rai blynyddoedd ar draeth Talsarnau yn y 50au yn torri tywyrch i’w gyrru ar hyd ac ar led i wneud lawntiau bowlio a thenis, ac i fannau megis planhigfa ar gyfer Wembley. Mae wedi trosglwyddo’r offer oedd yn eu defnyddio i Neuadd Gymuned Talsarnau”.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy