Neidio i'r cynnwys

Ratnapura

Oddi ar Wicipedia
Ratnapura
Eglwys gadeiriol Saint Pedr a Pawl, Ratnapura
Mathanheddiad dynol Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:30 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRatnapura district Edit this on Wikidata
GwladBaner Sri Lanca Sri Lanca
Arwynebedd20 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr130 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau6.6667°N 80.4003°E Edit this on Wikidata
Map

Dinas yng nghanolbarth Sri Lanca sy'n brifddinas Ardal Ratnapura a Thalaith Sabaragamuwa yw Ratnapura (Sinhaleg, රත්නපුර ; Tamileg, இரத்தினபுரி ; "Dinas y Meini Gwerthfawr" ratna "gemau" + pura "dinas"). Mae'r ffurf Rathnapura yn amrywiad ar yr enw. Mae'r ddinas yn gorwedd tua 100 km i'r de-ddwyrain o Colombo, prifddinas Sri Lanca. Tua 20 km i'r gogledd ceir Copa Adda, sy'n ganolfan pererindod bwysig.

Mae Ratnapura wedi bod yn ganolfan mwyngloddio am emau gwerthfawr fel rhuddemau a saffirau ers canrifoedd. Tyfir llawer o reis a ffrwythau yn yr ardal hefyd. Ceir planhigfeydd te a rwber o gwmpas y ddinas ac mae twristiaeth yn bwysig i'r economi hefyd gydag ymwelwyr yn ei defnyddio fel canolfan i fynd i fforest Sinharaja, Parc Cenedlaethol Uda Walawe, Kitulgala, a Sri Pada (Copa Adda). Yn 2001 roedd gan Ratnapura boblogaeth o 46,309.

Eginyn erthygl sydd uchod am Sri Lanca. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy