Reykjanesbær
Math | Cymunedau Gwlad yr Iâ |
---|---|
Poblogaeth | 18,920 |
Pennaeth llywodraeth | Kjartan Már Kjartansson |
Gefeilldref/i | Kerava, Orlando, Bwrdeistref Trollhättan |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Islandeg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Reykjanesskagi |
Gwlad | Gwlad yr Iâ |
Arwynebedd | 145 km² |
Yn ffinio gyda | Suðurnesjabær, Grindavíkurbær, Vogar |
Cyfesurynnau | 64.0011°N 22.5519°W |
Cod post | 230, 232, 233, 235, 260 |
Pennaeth y Llywodraeth | Kjartan Már Kjartansson |
Mae Reykjanesbær yn fwrdeistref gymharol newydd ar benrhyn yn orllewin Gwlad yr Iâ, Penrhyn y De neu Reykjanesskagi fel y'i gelwir. Ystyr yr enw yw tref y mwg yn Islandeg. Mae'n cynnwys y trefi Keflavík, Njarðvík, a phentref Hafnir, ac, ers 2006 Ásbrú. Crewyd y bwrdeisdref yn 1994 pan bleidleisiodd y tair tref o blaid uno. Gydag oddeutu 18,000 o drigolion, Reykjanesbær yw'r bumed fwrdeistref fwyaf yng Ngwlad yr Iâ o ran poblogaeth.
Gorwolwg
[golygu | golygu cod]O'r tair tref sy'n ffurfio'r fwrdeistref, Keflavík yw'r mwyaf, tra Hafnir yw'r lleiaf a rhyw 10 km o bellter. Roedd Keflavík a Njarðvík yn drefi gwahanol yn wreiddiol, ond tyfodd yn raddol gyda'i gilydd yn ystod hanner olaf yr 20g, nes mai dim ond un stryd oedd yr unig beth sy'n eu gwahanu. Roedd ochr ogleddol y stryd yn perthyn i Keflavík a'r ochr ddeheuol i Njarðvík. Ers mis Mai 2009 bu treflab Njarðvík yn lleoliad Amgueddfa'r Llychlynwyr (Viking World Museum).
Yn 2006, pan gaeodd Unol Daleithiau America eu presenoldeb yn Gorsaf Awyr y Llynges yn Keflavik, cafodd y safle ei gymryd drosodd gan yr asiantaeth ddatblygu Kadeco, a'i hailenwi yn Ásbrú. Sefydlwyd prifysgol brefiat ni-er-elw Keilir (Atlantic Centre of Excellence: Keilir, miðstöð vísinda, fræða og atvinnulífs) yno yn 2007.[1] byn hyn mae Ásbrú yn gartref i gampysau sefydliadau addysgol amrywiol a hefyd busnesau, wedi'u sefydlu'n newydd ac wedi'u symud i safle'r awyr.
Gefalldrefi
[golygu | golygu cod]Dyma gefelldrefi Reykjanesbær:
- Kerava, Y Ffindir
- Kristiansand, Norwy[2]
- Miðvágur, Ynysoedd y Ffaroe
- Orlando, Florida, UDA[3]
- Trollhättan, Sweden
Atyniadau
[golygu | golygu cod]- The Icelandic Museum of Rock 'n' Roll
- Naval Radio Transmitter Facility Grindavik
- Reykjanesviti
- Viking World museum
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [1] Archifwyd 2007-08-30 yn y National and University Library of Iceland University of Iceland
- ↑ "Internasjonalt arbeid". www.kristiansand.kommune.no. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 5, 2011. Cyrchwyd 2016-06-18.
- ↑ "Online Directory: Iceland, Europe". www.sister-cities.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar August 24, 2004. Cyrchwyd 2016-06-18.