Samsara
Enghraifft o: | term |
---|---|
Math | cysyniad crefyddol |
Enw brodorol | संसार |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Gweler hefyd Samsara (gwahaniaethu).
Term mewn Hindŵaeth, Bwdhaeth, Jainiaeth, Siciaeth a chrefyddau tebyg, am y byd cyfnewidiol, sef cylch geni, marw a dadeni yw samsara (Sansgrit: संसार saṃsāra). Mae samsara a'r llwybr i ymryddhau o'i afael yn un o gysyniadau gwaelodol y crefyddau hyn.
Yn ôl dysgeidiaeth y crefyddau hyn, mae bod dynol yn cael ei eni yn y byd hwn gyda'r gwaddol o karma sy'n perthyn iddo o'i fodolaethau blaenorol. Cyfanswm canlyniad gweithredoedd bod byw, er da neu er drwg, yw'r karma hwn, ac mae'n penderfynu ei dynged yn y dyfodol yn y broses barhaus o fod a pheidio bod, o symud i fyny neu i lawer yn y cosmos. Mae'n gysyniad sy'n tarddu o athroniaeth yr Isgyfandir India hynafol. Cafodd ei fenthyg o Hindŵaeth gan Fwdhaeth lle mae'n chwarae rhan bwysig yn nysgeidiaeth y Mahayana, yn enwedig ym Mwdhaeth Tibet. Yn ôl Bwdhaeth, pan fo person yn marw mae'r ewyllysiau gwaelodol a fu'n rhan o'i fywyd (samskaras) yn cael eu trosglwyddo gyda'i ymwybod - yr hyn a elwir yn enaid neu ysbryd yn y crefyddau Abrahamig - sydd, ar ôl cyfnod rhwng marwolaeth a geni (Tibeteg: y bardo), yn penderfynu ffurf y strwythur biolegol newydd y caiff y bod hwnnw ar ei ddadeni yn y byd. Credir fod y broses yma o eni a dadeni yn samsara yn mynd ymlaen am amser maith nes bod y person yn cyrraedd moksha (ymryddhau llwyr o'r byd cyfnewidiol).