Sgwrs:Grymoedd rhyngfoleciwlaidd
Gwedd
Rhys annwyl: mae hon yn argoeli'n erthygl dda gen ti (unwaith eto!). Wnei di, fodd bynnag wiro'r canlynol:
Bydd gan gyfansoddion gyda grymoedd deupol anwythol deupol anwythol rhwng y moleciwlau berwbwyntiau isel.
Diolch, rhen gyfaill! Llywelyn2000 22:38, 3 Ebrill 2009 (UTC)
- Mae hyn yn gywir oherwydd mae grymoedd deupol anwythol-deupol anwythol sydd rhwng y moleciwlau yn wan iawn ac felly mae berwbwynt y cyfansoddion yn isel. Oes yna ffordd well o geirio hyn? Rhys Thomas 08:29, 4 Ebrill 2009 (UTC)
- Diolch Rhys; mae gen ti heiffen yr ail dro, ond nid yn y cyntaf. Wnei wiro'r termau drwy'r erthygl e.e. doedd dim heiffen yn 'deupol-deupol'. Mi wneith hyn gysoni'r cyfan. Diolch eto. Llywelyn2000 15:37, 4 Ebrill 2009 (UTC)
- Peidiwch a phoeni- mae popeth yn iawn yn yr erthygl- mae'n rhaid i mi ddysgu o gyd ar gyfer fy arholiad cemeg mis nesaf! Hwyl am y tro, Rhys Thomas 19:17, 4 Ebrill 2009 (UTC)
- Wel, cofia fod na heiffen yn 'deupol-deupol', felly!!! Llywelyn2000 22:54, 4 Ebrill 2009 (UTC)
- Ah fi'n gweld! Sori am hyna! Nos Da! Rhys Thomas 22:58, 4 Ebrill 2009 (UTC)