Sgwrs Defnyddiwr:Petroc2
Shwmae, Petroc2! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. | Message in English | Message en français | ||
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma. | |||
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 281,575 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg. | |||
Y Caffi Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia. |
Cymorth Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia. | ||
Porth y Gymuned Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth sydd angen gwneud yma. |
Golygu ac Arddull Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau. | ||
Hawlfraint Y rheolau hawlfraint yma. |
Cymorth iaith Cymorth gyda'r iaith Gymraeg. | ||
Polisïau a Chanllawiau Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned. |
Cwestiynau Cyffredin Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr. | ||
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial, a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio. |
Y Pum Colofn Egwyddorion sylfaenol y prosiect. | ||
Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".
|
Cofion cynnes,
Croeso. Deb 17:05, 17 Mai 2008 (UTC)
Swydd Berks
[golygu cod]Roedd erthygl am Berkshire yn bodoli'n barod felly dw i wedi ailgyfeirio Swydd Berks i'r erthygl hynny (dw i ddim yn meddwl bod Swydd Berks yn cael ei ddefnyddio fel enw ar y sir/swydd yn Gymraeg). Dw i ddim wedi ychwanegu y cynnwys greuaist ti ato, gan nad oeddwn o'r farn bod y cynnwys yn berthnasol i holl sir/swydd, ond dw i wedi ei gopio isod rhag ofn dy fod eisiau ei ail-ddefnyddio eto:
- Swydd yn Ne Ddwyrain Lloegr. Roedd cartref y Cymro hoyw enwog Ivor Novello yno am y rhan fwyaf o'i yrfa theatr yn y pentre Littlewick Green
- Prif dref y swydd yw Reading Berkshire gyda phoblogaeth o 145,000.
--Ben Bore 15:16, 2 Mehefin 2009 (UTC)
Ben Travers
[golygu cod]Fi eto! Diolch am ychwanegu'r erthyglau newydd gyda llaw, ond dyma ychydig o tips. Er mwyn i bobl weld yr erthyglau ti wedi mynd i'r drafferth eu creu, mae'n syniad eu rhoi mewn categoriau perthansol. Hefyd, o ran arddull, dylai'r frawddeg cyntaf gyfeirio at pam mae'r person yn enwog, yna mynd ymlaen i s ôn am ei fywyd/bywyd mewn brawddegau pellach. Mae'r ddolen yma yn dangos y newidiau dw i wedi eu gwneud - efallai bydd o help i egluro beth dw i'n feddwl uchod. --Ben Bore 15:31, 2 Mehefin 2009 (UTC)
Bryn y Briallu
[golygu cod]Erthygl ddiddorol iawn gen ti. Diolch. Llywelyn2000 08:08, 13 Gorffennaf 2009 (UTC)
Nodiadau Saesneg ayyb
[golygu cod]Cofiwch fod gennym ni nodiadau Cymraeg yn lle'r rhai Saesneg a hefyd fod y categorïau i gyd yn Gymraeg (heblaw y rhai sy 'mond yn cynnwys enwau lleoedd). Mae'n well peidio rhoi'r rhai Saesneg i mewn o gwbl am eu bod yn gadael dolenni coch trwy'r erthygl i gyd ac yn creu cryn dipyn o waith i'w cywirio. Pwynt arall am y categoriau: fel y wicipediau eraill i gyd bron, rydym yn defnyddio system sy'n llai cymhleth o lawer na'r un ar y wicipedia Saesneg, a hynny am sawl rheswm (diffyg erthyglau ac amser yn bennaf): yr unig eithriad yw'r categorïau sy'n ymwneud â Chymru, am fod gennym mwy o erthygau mewn rhai meysydd Cymreig nag sy ganddyn nhw ar 'en:' (braf bod ar y blaen mewn rhai pethau!). Cofiwch ofyn os oes angen cymorth. Hwyl, Anatiomaros 22:51, 26 Gorffennaf 2009 (UTC)
Ti wedi bod yn brysur yn ehangu ar yr erthygl, ond rwyt wedi nodi dau enw ar gyfer 1978. Pa un sy'n gywir? --Ben Bore 13:28, 2 Chwefror 2010 (UTC)
- Mae rhywun wedi gosod llyfr anghywir, nid y fi ond mae . Y Ddaeargryn Fawr wedi ennill, mae gen i gopi hefyd, yn ffoddus mae rhywun aralll wedi dileu y llyfr anghywir - dwi'n ceisio osgoi dileu gwaith pobl eraill - tasg i'r rhai mwy profiadol yw hynny
- Paid bod ofn, dileu gwaith rhywun arall os oes gyda ti reswm da i wneud hynny, ac yn anwedig os wyt ti'n 100% bod y wybodaeth yn anhywir. Gallwn ddadwneud unrhyw olygiadau yma ta beth os oes angen.--Ben Bore 19:22, 22 Chwefror 2010 (UTC)
Mae cynnwys y ddau erthygl fwy neu lai yn dweud yn union yr un peth, ond dw ddim yn siwr pwy sydd wedi cyfieithu beth.--Ben Bore 19:22, 22 Chwefror 2010 (UTC)
Pwll tywod
[golygu cod]Efallai roeddet ti'n chwilio am y Pwll tywod go iawn, Petroc? Dwi wedi dileu'r dudalen 'Pwll tywod' am ei fod yn cyfrif fel "erthygl". Cofia, os wyt ti eisiau arbrofi fel hyn, yn ogystal â defnyddio'r Pwll tywod go iawn mae'n bosibl creu estyniad i dy dudalen defnyddiwr, e.e. trwy teipio hyn - Defnyddiwr:Petroc/Pwll tywod - yn y blwch chwilio a chreu'r dudalen. Dydy tudalen o'r fath ddim yn cyfrif fel erthygl a dim yn rhan o'r prif system a chei di sgwennu unrhywbeth rwyt ti'n dymuno yno. Hwyl, Anatiomaros 23:21, 23 Chwefror 2010 (UTC)
Manylion coll am File:Tshingiz Aitmatof.jpg
[golygu cod]Os na roddir gwybodaeth, efallai enwebir y ddelwedd am ddilead, sy'n sefyllfa nad yw'n ddymunol, a sefyllfa y gellir ei hosgoi'n hawdd.
Os oes cwestiynu gennych, ymwelwch â'r dudalen hon. Diolch. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 20:45, 17 Mai 2011 (UTC)-- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 20:45, 17 Mai 2011 (UTC)
Manylion ffeiliau coll
[golygu cod]Helo, Petroc2, sut mae? Yn gyntaf, hoffwn ddweud diolch yn fawr ichi am gyfrannu at y Wicipedia Cymraeg - rydym yn gwerthfawrogi cymorth gan unrhyw un gan mai prosiect cymunedol ydyw. Wedi dweud hynny, rydych wedi bod yn uwchlwytho lluniau/delweddi nad ydynt yn cynnwys disgrifiadau digon manwl, sy'n colli ffynonellau, awdur/on, ayyb. Mae'n rhaid gwybod, felly, bod modd iddynt gael eu dileu oddi wrth y Wicipedia hwn os nad ydych yn darparu'r wybodaeth gywir - gallwch ddod o hyd i'r hyn rydych yn ei uwchlwytho drwy ddefnyddio'r offeryn yma. Diolch am eich cyd-weithrediad, -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 20:46, 17 Mai 2011 (UTC)
Ffeiliau
[golygu cod]Gweler eich tudalen sgwrs Defnyddiwr:Enw defnyddiwr/Ffeiliau am ragor o wybodaeth. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 18:42, 24 Mai 2011 (UTC)
Manylion coll am File:William Curtis.png
[golygu cod]Os na roddir gwybodaeth, efallai enwebir y ddelwedd am ddilead, sy'n sefyllfa nad yw'n ddymunol, a sefyllfa y gellir ei hosgoi'n hawdd.
Os oes cwestiynu gennych, ymwelwch â'r dudalen hon. Diolch. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 02:58, 5 Mehefin 2011 (UTC)You are invited!
[golygu cod]You are invited... | |
---|---|
The Celtic Knot: Wikipedia Language Conference - Programme now live.
|
Stinglehammer (sgwrs) 22:51, 22 Mai 2017 (UTC)
Sefydlu grwp newydd: Wikimedia neu Wicimedia Cymru
[golygu cod]Rhag ofn na welais ti'r sgwrs - mae cais di neud i ffurfio grwp swyddogol fel y Basgiaid. Beth am ychwanegu dy sylwadau? Gweler: Wicipedia:Y Caffi#Sefydlu Grŵp Defnyddwyr Wicimedia '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 09:28, 12 Gorffennaf 2017 (UTC)
Margaret Steuart Pollard
[golygu cod]Mae dy erthygl Margaret Steuart Pollard yn hynod ddiddorol! Dw i wedi newid rhyw fanion - os wnei di fwrw golwg rhag ofn mod i wedi camgywro (!) mi faswn yn ddiolchgar iawn! Yn y cyfamser mi geisia i ffindio llun arall ohoni - heb y mwgwd! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:53, 11 Mawrth 2018 (UTC)
Community Insights Survey
[golygu cod]Share your experience in this survey
Hi Petroc2,
The Wikimedia Foundation is asking for your feedback in a survey about your experience with Wicipedia and Wikimedia. The purpose of this survey is to learn how well the Foundation is supporting your work on wiki and how we can change or improve things in the future. The opinions you share will directly affect the current and future work of the Wikimedia Foundation.
Please take 15 to 25 minutes to give your feedback through this survey. It is available in various languages.
This survey is hosted by a third-party and governed by this privacy statement (in English).
Find more information about this project. Email us if you have any questions, or if you don't want to receive future messages about taking this survey.
Sincerely,
RMaung (WMF) 16:17, 9 Medi 2019 (UTC)
Reminder: Community Insights Survey
[golygu cod]Share your experience in this survey
Hi Petroc2,
A couple of weeks ago, we invited you to take the Community Insights Survey. It is the Wikimedia Foundation’s annual survey of our global communities. We want to learn how well we support your work on wiki. We are 10% towards our goal for participation. If you have not already taken the survey, you can help us reach our goal! Your voice matters to us.
Please take 15 to 25 minutes to give your feedback through this survey. It is available in various languages.
This survey is hosted by a third-party and governed by this privacy statement (in English).
Find more information about this project. Email us if you have any questions, or if you don't want to receive future messages about taking this survey.
Sincerely,