Neidio i'r cynnwys

Stephen Gately

Oddi ar Wicipedia
Stephen Gately
Ganwyd17 Mawrth 1976 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
Bu farw10 Hydref 2009 Edit this on Wikidata
o edema ysgyfeiniol, Edit this on Wikidata
Andratx Edit this on Wikidata
Label recordioPolydor Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gwyddel
Galwedigaethactor, canwr, dawnsiwr, cyfansoddwr caneuon, awdur plant, actor llwyfan, canwr-gyfansoddwr, actor ffilm Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, Eurodance Edit this on Wikidata
Math o laistenor Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.stephengately.co.uk/ Edit this on Wikidata

Canwr, cyfansoddwr ac actor o Iwerddon oedd Stephen Patrick David Gately (17 Mawrth 197610 Hydref 2009). Ar y cyd gyda Ronan Keating, ef oedd un o ddau prif leisydd y band Boyzone. Aeth pob un o albymau stiwdio'r band i rif un yn y Deyrnas Unedig, gyda'u trydydd albwm sef yr un olaf fwyaf llwyddiannus yn rhyngwladol. Gyda Boyzone, aeth un ar bymtheg o senglau Gately yn syth i mewn i'r pump uchaf yn Siart Senglau'r Deyrnas Unedig. Perfformiodd gerbron miliynau o gefnogwyr yn fyd-eang. Ar ôl i'r band wahanu, rhyddhaodd albwm solo llwyddiannus yn 2000 a aeth i'r Deg Uchaf yn y Deyrnas Unedig a aeth tair o'i senglau i'r siart, gan gynnwys y gân "New Beginning" a aeth i rif 3 yn y siart. Wedi hyn, parhaodd Gately i berfformio mewn nifer o gynhyrchiadau llwyfan ac ymddangosodd ar amryw o raglenni teledu, yn ogystal â chyfrannu traciau ar gyfer prosiectau yn y dyfodol. Yn 2008, ail-ymunodd â Boyzone am gyfres o recordiadau a chyngherddau.

Priododd Gately Andrew Coles, yn gyntaf mewn seremoni ymroddiad yn Las Vegas yn 2003 ac yna mewn seremoni partneriaeth sifil yn Llundain yn 2006. Ym 1999, Gately oedd un o'r ser pop cyntaf i ddod allan fel dyn hoyw. Pan ail-ffurfiwyd y band Boyzone, ymddangosodd Gately fel un o'r cyplau hoyw cyntaf i ymddangos mewn fideo cerddorol, ar gyfer y gân "Better".

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Daethpwyd o hyd i'w gorff mewn fflat yr oedd ef a'i bartner Cowles yn berchen arno ym Majorca, Sbaen ar y 10 Hydref, 2009. Ym mhapur newydd The Irish Times, dywedodd Brian Boyd mai marwolaeth Gately oedd "y tro cyntaf mae bandiau bechgyn, fel genre gerddorol, wedi gorfod delio â sefyllfa mor drasig”. Dywedodd Tim Teeman o'r The Times fod Gately yn arwr ac yn arloeswr dros hawliau pobl hoyw yn sgil y ffordd yr ymatebodd i gael ei orfodi i ddod allan.


Baner Republic of IrelandEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy