Tecwyn
Tecwyn | |
---|---|
Ganwyd | 5 g |
Bu farw | 6 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Dydd gŵyl | 14 Medi |
Tad | Ithel Hael |
Sant o Gymro oedd Tecwyn (fl. 6g). Ef yw sefydlwr traoddiadol a nawddsant eglwys Llandecwyn, y plwyf cyfagos i blwyf Llanfihangel y Traethau yn Ardudwy, Gwynedd.[1]
Hanes a thraddodiad
[golygu | golygu cod]Dywed traddodiad ei fod yn fab i Ithel Hael (Ithael Hael). Ceir dwy achrestr o blant Ithel. Yn y gyntaf cyfeirir at y seintiau Tanwg, Gredifael, a Fflewyn fel plant iddo. Cysylltir yr rhain â Gwynedd. Mae'r achrestr arall yn ei wneud yn frawd i'r seintiau Fflewyn, Tegai, Trillo, Twrog, Llechid, a Baglan.[1]
Dywedir fod Fflewyn wedi dod drosodd o Lydaw gyda sant Cadfan ac Emyr Llydaw i sefydlu Llandecwyn.[1]
Darganfuwyd hen groes Geltaidd pan dynwyd yr hen eglwys i lawr yn 1879 i adeiladau un newydd yn ei lle. Cyfeirir yr arysgrif Ladin at 'yr offeiriad Tecwyn'. Roedd yna Ffynnon Decwyn gerllaw hefyd a safai Maen Tecwyn mewn cae cyfagos.[1]
Dethlir gwylmabsant Tecwyn ar 14 Medi.