Torlun pren
Enghraifft o: | techneg mewn celf |
---|---|
Math | argraffu cerfweddol, engrafio ar bren, printing process |
Cynnyrch | torlun pren |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Techneg argraffu cerfweddol yw torlun pren. Mae arlunydd yn tynnu llun ar wyneb darn gwastad o bren – y bloc – ac yna mae'n cerfio i ffwrdd yr ardal o gwmpas y delwedd. (Weithiau mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud gan grefftwr arbenigol.) Mae'n incio'r ddelwedd, sy'n sefyll yn glir o'r wyneb yn awr, yn gosod darn o bapur ar y bloc, a'i wasgu i lawr. Dim ond y ddelwedd ar yr wyneb uchel yn cael ei throsglwyddo i'r papur.
A bod yn fanwl gywir, mewn torlun pren, torrir y bloc ar hyd graen ochr y bloc; pan dorrir y bloc ar raen ben y bloc, y canlyniad yw engrafiad pren. Yn gyffredinol, gall engrafiad pren gynnwys mwy o fanylion na thorlun pren. Fodd bynnag, yn aml mae angen llygad craff i weld y gwahaniaeth rhwng y ddau fath.
Dim ond ychydig o bwysau sydd ei angen i argraffu o dorlun pren. Mae hyn yn wahanol i dechnegau argraffu intaglio fel ysgythru ac engrafio, sydd angen rhyw fath o wasg argraffu.
Yn Ewrop, defnyddiwyd sawl math o bren ar gyfer y bloc, gan gynnwys pren bocs a phren ffrwythau (pren gellyg neu bren ceirios, er enghraifft); yn Japan, defnyddiwyd pren y rhywogaeth geirios Prunus serrulata.
Hanes
[golygu | golygu cod]Tarddodd torluniau pren yn Tsieina hynafol fel dull o argraffu ar decstilau ac yn ddiweddarach ar bapur. Cyrhaeddodd y dechneg Ewrop yn y 13g, a daeth yn eang yno erbyn canol y 15g. Yn y cyfnod hwn roedd llawer iawn o'r gwaith yn ansoffistigedig ac yn eithaf amrwd, ond defnyddiodd nifer o artistiaid o ddiwedd y ganrif (yn enwedig Albrecht Dürer) y dechneg i gynhyrchu canlyniadau gwych. Torlun pren oedd y prif gyfrwng ar gyfer lluniau mewn llyfrau printiedig rhwyng canol y 15g a diwedd yr 16g.
-
Torlun pren syml o Straßburger Heldenbuch, tua 1480
-
Samson yn rhwygo'r llew (Barnwyr 14:6), torlun pren gan Albrecht Dürer, tua 1497
-
Der Formschneider (crefftwr yn torri torlun pren), torlun pren gan Jost Amman, 1568
Cyrhaeddodd y torlun pren lefel uchel o ddatblygiad technegol ac artistig yn Nwyrain Asia ac Iran. Dechreuodd y traddodiad Siapaneaidd o argraffu torlun pren o'r enw moku-hanga yn y 17g. Defnyddiwyd hwn yn genre o brintiau o'r enw ukiyo-e ("lluniau o'r byd cyfnewidiol"). Weithiau roedd y rhain yn cael eu lliwio â llaw ar ôl eu hargraffu. Yn ddiweddarach, datblygwyd printiau gyda llawer o liwiau. Yn y 1860au dechreuodd y printiau lliw Siapaneaidd hyn gyrraedd Ewrop a daethant yn ffasiynol, yn enwedig yn Ffrainc. Cawsant ddylanwad mawr ar lawer o artistiaid yno, yn benodol Édouard Manet, Henri de Toulouse-Lautrec, Edgar Degas, Paul Gauguin a Vincent van Gogh.
O ddiwedd y 19eg ganrif dechreuodd nifer o artistiaid modernaidd – Edvard Munch a'r Mynegwyr Almaeneg yn benodol – werthfawrogi toriadau coed am eu uniongyrchedd a'u grym seicolegol.
-
Un o'r Cant o Olygfeydd Enwog o Edo, torlun pren o Siapan gan Hiroshige, 1857
-
Merched ar y Bont, torlun pren gan Edvard Munch, 1918
-
Y Gynulleidfa, torlun pren gan Ernst Ludwig Kirchner, tua 1920