Vulcana
Vulcana | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mai 1874 Y Fenni |
Bu farw | 8 Awst 1946 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, strongman |
Dynes gref broffesiynol oedd Vulcana, sef Kate Williams (1875 – 1946), a elwir hefyd yn Kate Roberts. Ganed hi i rieini o dras Wyddelig yn Y Fenni, Sir Fynwy.
Gyda'r dyn cryf William Hedley Roberts, a adnabyddid fel 'Atlas', aeth ar daith berfformio mewn theatrau yng ngwledydd Prydain, Ewrop ac Awstralia, gan berfformio wrth yr enw 'The Atlas and Vulcana Group of Society Athletes'.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn bymtheg oed, cyfarfu Kate Williams a William Roberts yn y gymnasium lleol i ferched a redai yn Y Fenni. Roedd William Roberts yn ŵr priod, ond syrthiodd y ddau mewn cariad ac aethant i ffwrdd gyda'i gilydd. Perfformiodd y ddau am y tro cyntaf ym Mhontypwl ac aethant wedyn i Lundain gan berfformio fel 'Atlas a Vulcana'.
Cafodd Vulcana ei llwyddiant mwyaf yn Ffrainc, gan wneud enw iddi'i hun yn y Halterophile Club de France a chael ei llun ar glawr y cylchgrawn poblogaidd La Santé par les Sports. Cafodd dros gant o fedalau yn ystod ei gyrfa.
Roedd hi'n enwog am ei champau arwrol hefyd, yn cynnwys achub plentyn rhag boddi yn Afon Wysg yn 1901: derbyniodd fedal am hynny.
Symudodd Vulcana ac Atlas i Lundain yn y 1920au, ac ymddeolodd y ddau yn 1932. Cafodd Vulcana ei thrawo gan fodur yn Llundain yn 1939; bu bron iddi farw ond er iddi gael nam ar yr ymenydd goroesodd hyd 1946. Bu farw ei gŵr a'i merch ieuengaf yn yr un flwyddyn, ychydig cyn ei marwolaeth hi.
Coffhád
[golygu | golygu cod]Cofir am Vulcana yn enw'r 'Vulcana Women's Circus', gyda'i bencadlys yn ninas Brisbane, Awstralia, a enwir ar ei hôl.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) *Gwefan am Atlas & Vulcana