Wank
Gwedd
Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ester Mountains |
Sir | Garmisch-Partenkirchen |
Gwlad | Yr Almaen |
Uwch y môr | 1,780 metr |
Cyfesurynnau | 47.5108°N 11.1407°E |
Cadwyn fynydd | Ester Mountains |
Mae Wank (cynaniad: fanc) yn fynydd yn yr Almaen, agos at y ffin ag Awstria, ger Garmisch-Partenkirchen, Bafaria. Mae'r copa ar 1780 medr uwchben lefel y môr.
Cysylltir Wank â Garmisch-Partenkirchen gan system car cêbl o'r enw "Wankbahn" — roedd lifft wedi bodoli ers 1928, ond mae'r system ceir cêbl modern yn dyddio o 1982. Mae'r daith yn cymryd 20 munud o'r dyffryn (uchder 728m) hyd at orsaf fynydd agos at y copa (1742m). Adeiladwyd y caban mynydd (Tŷ Alois Huber) gan adran leol Cymdeithas yr Alpau Almaenig (DAV) yn 1911. Gall person ffit gerdded i fyny i gopa Wank heb anhawster mawr.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Camera gwe Wank Archifwyd 2006-02-09 yn y Peiriant Wayback
- (Almaeneg) Wank-Haus
- (Saesneg) Wankbahn Archifwyd 2008-11-16 yn y Peiriant Wayback