Wicipedia Saesneg
Enghraifft o: | Wicipedia mewn iaith benodol |
---|---|
Crëwr | Jimmy Wales, Larry Sanger |
Awdur | English Wikipedia community |
Iaith | Saesneg |
Dechrau/Sefydlu | 15 Ionawr 2001 |
Perchennog | Sefydliad Wicimedia |
Yn cynnwys | English Wikipedia article |
Statws hawlfraint | dan hawlfraint |
Gweithredwr | Sefydliad Wicimedia |
Cynnyrch | Gwyddoniadur rhyngrwyd |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin |
Gwefan | https://en.wikipedia.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fersiwn Saesneg o Wicipedia yw'r Wicipedia Saesneg (Saesneg: English Wikipedia). Sefydlwyd ar 15 Ionawr 2001, gan gyrraedd dwy filiwn o erthyglau erbyn mis Medi 2007.[1]
Hon oedd y fersiwn cyntaf o Wicipedia ac mae'n dal i fod y mwyaf o ran nifer yr erthyglau: yn Awst 2013 roedd dros dair gwaith maint y Wicipedia Iseldireg a'r Wicipedia Almaeneg, sef yr ail a'r trydydd mwyaf. Hyd at 2008, roedd tua 22.5% o holl erthyglau Wicipedia ym mhob iaith yn perthyn i'r fersiwn Saesneg ei hiaith, ond mae'r ganran hon wedi lleihau'n enbyd oherwydd twf Wicipedia yn yr ieithoedd eraill i 14.9% (Awst 2013).[2] Ceir hefyd fersiwn syml ohoni sef Simple English Wikipedia.
Am 24 awr o 18–19 Ionawr 2012, bu blackout ar y Wicipedia Saesneg fel protest yn erbyn dau fesur deddfwriaethol oedd yn mynd drwy Gyngres yr Unol Daleithiau, y Stop Online Piracy Act a'r PROTECT IP Act.
Cyfrifon Defnyddwyr | erthyglau | Ffeiliau | Admins |
---|---|---|---|
19,034,326 | 4,240,467 | 806,804 | 1,448 |
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- ↑ Anjali Rego (2007-09-13). Wikipedia Reaches 2 Million Articles. Tech2.
- ↑ Wikimedia Meta-Wiki (2008-09-21). List of Wikipedias.