William Hague
Y Gwir Anrhydeddus William Hague | |
| |
Cyfnod yn y swydd 12 Mai 2010 – 8 Mai 2015 | |
Rhagflaenydd | Yr Arglwydd Mandelson |
---|---|
Olynydd | George Osborne |
Cyfnod yn y swydd 19 Mehefin 1997 – 13 Medi 2001 | |
Rhagflaenydd | John Major |
Olynydd | Iain Duncan Smith |
Ysgrifennydd Gwladol Cymru
| |
Cyfnod yn y swydd 5 Gorffennaf 1995 – 2 Mai 1997 | |
Rhagflaenydd | David Hunt |
Olynydd | Ron Davies |
Geni | 26 Mawrth 1961 Rotherham, De Swydd Efrog |
Etholaeth | Richmond |
Plaid wleidyddol | Ceidwadol |
Priod | Ffion Jenkins |
Gwleidydd Ceidwadol, Seisnig a chyn Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig ydy William Jefferson Hague (ganwyd 26 Mawrth 1961[1]) a gynrychiolodd Etholaeth Richmond, Swydd Efrog rhwng 1989 a 2015. Roedd Hague yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru 1995-1997, ac wedyn yn arweinydd y Blaid Geidwadol 1997-2001. Rhwng 2014-2015 ymgyrchodd i fod yn Brif Weinidog Tŷ'r Cyffredin y Deyrnas Unedig ond ni fu'n llwyddiannus.[2]
Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]Yn 16 oed daeth i sylw cenedlaethol Prydeinig, yng Nghyhadledd y Ceidwadwyr yn 1977 pan anerchodd y gynhadledd: "Half of you won't be here in 30 or 40 years' time", but that others would have to live with consequences of a Labour government if it stayed in power."[3] Roedd yn rhugl iawn fel siaradwr a gwnaeth gryn argraff ar y pryd. Fe'i etholwyd i gynrychioli Richmond yn is-etholiad 1989. Dringodd ysgol wleidyddol Llywodraeth John Major yn sydyn iawn a daeth yn aelod o'r Cabinet yn 1995 fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Roedd yn Arweinydd y Blaid Geidwadol pan oedd yn 36 oed.
Ar 14 Gorffennaf 2014, daeth ei dymor fel Ysgrifennydd Tramor i ben, a chychwynodd fel Arweinydd Tŷ'r Cyffredin, fel cychwyn y broses o ymddeol o wleidyddiaeth, wedi 26 mlynedd fel Aelod Seneddol.
Y person
[golygu | golygu cod]Fe'i addysgwyd yn ysgol uwchradd Wath-upon-Dearne cyn mynychu Coleg Magdalen, Rhydychen ac INSEAD lle cafodd radd Dosbarth Cyntaf mewn Athroniaeth, Gwledyddiaeth ac Economeg a gradd Meistr yn INSEAD.
Cymraes yw ei wraig Ffion (née Jenkins) a gyfarfu pan oedd e'n Ysgrifennydd Gwladol a hithau'n gweithio yn yr un Adran. Gofynnodd ef iddi ddysgu geiriau'r Anthem Genedlaethol iddo, yn dilyn smonach John Redwood ychydig cyn hynny.[4] Mae Ffion yn ferch i gyn-Drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol Emyr Jenkins. Prynnodd y ddau dŷ gwerth £2.5 miliwn yn Ionawr 2015, sef 'Neuadd Cyfronydd' (neu 'Gyfronnydd') ger y Trallwng, ym Mhowys, ar gyfer eu hymddeoliad.[5]
Canghellor Prifysgol Rhydychen
[golygu | golygu cod]Cafodd Hague ei ethol yn Ganghellor newydd Prifysgol Rhydychen yn Nachwedd 2024.[6]
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Leon Brittan |
Aelod Seneddol dros Richmond 1989 – 2015 |
Olynydd: Rishi Sunak |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: David Hunt |
Ysgrifennydd Gwladol Cymru 5 Gorffennaf 1995 – 2 Mai 1997 |
Olynydd: Ron Davies |
Rhagflaenydd: David Miliband |
Ysgrifennydd Tramor 12 Mai 2010 – 14 Gorffennaf 2014 |
Olynydd: Philip Hammond |
Swyddi gwleidyddol pleidiol | ||
Rhagflaenydd: John Major |
Arweinydd y Blaid Geidwadol 1997 – 2001 |
Olynydd: Iain Duncan Smith |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ HAGUE, Rt Hon. William (Jefferson). Who's Who. 2014 (arg. online Oxford University Press). A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc. (angen cofrestru a thâl)
- ↑ "Her Majesty's Government". 10 Stryd Downing. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-15. Cyrchwyd 22 Mai 2010.
- ↑ "Your favourite Conference Clips". The Daily Politics. BBC. 3 Hydref 2007. Cyrchwyd 28 Medi 2008.
- ↑ "'Spin doctor' grooms Ffion's election look". BBC News. 2 Mai 2001. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2008.
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 9 Awst 2015
- ↑ Richard Adams (27 Tachwedd 2024). "William Hague elected chancellor of Oxford University". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Tachwedd 2024.
|
|