William Wyler
William Wyler | |
---|---|
Llun cyhoeddusrwydd o William Wyler (tua 1945). | |
Ganwyd | 1 Gorffennaf 1902 Mulhouse |
Bu farw | 27 Gorffennaf 1981 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Y Swistir |
Alma mater | |
Galwedigaeth | sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, actor, cyfarwyddwr |
Adnabyddus am | The Collector, The Children's Hour, Ben-Hur, The Big Country, Friendly Persuasion, The Desperate Hours, Roman Holiday, Carrie, Detective Story, The Heiress, The Best Years of Our Lives, Mrs Miniver, The Little Foxes, The Westerner, The Letter, Wuthering Heights, Jezebel, These Three |
Priod | Margaret Sullavan, Margaret Tallichet |
Plant | Catherine Wyler |
Perthnasau | Carl Laemmle, Cathy O'Donnell |
Gwobr/au | Gwobr Urdd Cyfarwyddwyr America, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI, Golden Plate Award, Irving G. Thalberg Memorial Award, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Palme d'Or, Gwobr BAFTA am Gyfarwyddo Gorau, Gwobr Golden Globe am Gyfarwyddwr Gorau, Golden Globes |
Cyfarwyddwr ffilm o'r Unol Daleithiau o dras Almaenig oedd William Wyler (Willi Wyler; 1 Gorffennaf 1902 – 27 Gorffennaf 1981). Enillodd Wobr yr Academi am y Cyfarwyddwr Gorau, a'r Wobr am y Llun Orau, teirgwaith: Mrs Miniver (1942), The Best Years of Our Lives (1946), a Ben-Hur (1959). Roedd yn nodedig am ei gynigion trylwyr i dynnu lluniau golygfeydd hirion ar un tro.
Ganed Willi Wyler ym Mülhausen, yr Almaen Imperialaidd, i deulu Iddewig. Marsiandïwr o'r Swistir oedd ei dad, ac Almaenes. Cafodd ei ddiarddel o sawl ysgol oherwydd ei gamymddygiad. Fodd bynnag, cafodd ei dderbyn i'r École Supérieure de Commerce yn Lausanne, a dysgodd canu'r fiolin am gyfnod byr yn Conservatoire de Paris. Fe'i gwahoddwyd gan Carl Laemmle, pennaeth Universal Pictures a pherthynas bell ar ochr ei fam, i symud i Unol Daleithiau America i weithio i'r stiwdio. Aeth Wyler yn gyntaf i adran gyhoeddusrwydd Universal yn Efrog Newydd ym 1920 cyn iddo drosglwyddo i safle Universal City yn Nyffryn San Fernando, Califfornia, ac yno gweithiodd yn was swyddfa, gwas celfi, clerc sgriptiau, ac isgyfarwyddwr castio. Erbyn 1924, bu'n isgyfarwyddwr ar ffilmiau byrion ("dau rolyn") yn genre' Gorllewin Gwyllt, a chyfrannodd hefyd at ffilmio'r llun epig Ben-Hur: A Tale of the Christ (1925) dan gyfarwyddiaeth Fred Niblo.[1]
Ym 1925 cyfarwyddodd Wyler ei ffilm gyntaf, yn genre'r Gorllewin Gwyllt. Byddai'n cyfarwyddo rhyw hanner cant o ffilmiau dau-rolyn eraill yn y genre honno yn ystod ei yrfa. Ymhlith ei luniau mawr bu Jezebel (1938) ac addasiad o'r nofel Wuthering Heights (1939). Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd Wyler yn swyddog yng Nghorfflu Awyr Byddin yr Unol Daleithiau, a chyfarwyddodd y ffilm ddogfen The Memphis Belle.
Wedi'r rhyfel, cyfarwyddodd Wyler sawl ffilm boblogaidd, gan gynnwys The Heiress (1949), Detective Story (1951), Roman Holiday (1953), The Desperate Hours (1955), Friendly Persuasion (1956), a The Big Country (1958). Ei lun olaf oedd The Liberation of L.B. Jones (1970). Derbyniodd Wobr Goffa Irving G. Thalberg ym 1966 a Gwobr yr American Film Institute am Gyflawniad Oes ym 1976. Bu farw William Wyler yn Beverly Hills, Califfornia, yn 79 oed.
Year | Film | Category | Result | ||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwobrau'r Academi | |||||||
Seremoni wobrwyo yr Academi 1936 | Dodsworth | Cyfarwyddwr Gorau | Enwebwyd | ||||
Seremoni wobrwyo yr Academi 1939 | Wuthering Heights | Cyfarwyddwr Gorau | Enwebwyd | ||||
Seremoni wobrwyo yr Academi 1940 | The Letter | Cyfarwyddwr Gorau | Enwebwyd | ||||
Seremoni wobrwyo yr Academi 1941 | The Little Foxes | Cyfarwyddwr Gorau | Enwebwyd | ||||
Seremoni wobrwyo yr Academi 1942 | Mrs. Miniver | Cyfarwyddwr Gorau | Buddugol | ||||
Seremoni wobrwyo yr Academi 1946 | The Best Years of Our Lives | Cyfarwyddwr Gorau | Buddugol | ||||
Seremoni wobrwyo yr Academi 1949 | The Heiress | Ffilm Orau | Enwebwyd | ||||
Cyfarwyddwr Gorau | Enwebwyd | ||||||
Seremoni wobrwyo yr Academi 1952 | Detective Story | Cyfarwyddwr Gorau | Enwebwyd | ||||
Seremoni wobrwyo yr Academi 1953 | Roman Holiday | Ffilm Orau | Enwebwyd | ||||
Cyfarwyddwr Gorau | Enwebwyd | ||||||
Seremoni wobrwyo yr Academi 1956 | Friendly Persuasion | Ffilm Orau | Enwebwyd | ||||
Cyfarwyddwr Gorau | Enwebwyd | ||||||
Seremoni wobrwyo yr Academi 1959 | Ben-Hur | Cyfarwyddwr Gorau | Buddugol | ||||
Seremoni wobrwyo yr Academi 1965 | The Collector | Cyfarwyddwr Gorau | Enwebwyd | ||||
Gwobr Irving G. Thalberg | Buddugol | ||||||
Urdd Cyfarwyddwyr America | |||||||
1952 | Detective Story | Cyflawniad Cyfarwyddwr Eithriadol | Enwebwyd | ||||
1954 | Roman Holiday | Cyflawniad Cyfarwyddwr Eithriadol | Enwebwyd | ||||
1957 | Friendly Persuasion | Cyflawniad Cyfarwyddwr Eithriadol | Enwebwyd | ||||
1959 | The Big Country | Cyflawniad Cyfarwyddwr Eithriadol | Enwebwyd | ||||
1960 | Ben-Hur | Cyflawniad Cyfarwyddwr Eithriadol | Buddugol[2] | ||||
1962 | The Children's Hour | Cyflawniad Cyfarwyddwr Eithriadol | Enwebwyd | ||||
1966 | Gwobr Cyflawniad Oes | ||||||
1969 | Funny Girl | Cyflawniad Cyfarwyddwr Eithriadol | Enwebwyd |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) William Wyler. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2021.
- ↑ Sennett, Ted (1986). Great Movie Directors (yn Saesneg). New York: Abrams. t. 289. ISBN 978-0-8109-0718-8.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- A. Madsen, William Wyler: The Authorized Biography (1973).
- M. Andregg, William Wyler (1979).
- J. Herman, A Talent for Trouble: The Life of Hollywood's Most Acclaimed Director, William Wyler (1995).