Y genom dynol
Math | genom |
---|---|
Yn cynnwys | cromosom dynol 1, cromosom dynol 2, cromosom dynol 3, cromosom dynol 4, cromosom dynol 5, cromosom dynol 6, cromosom dynol 7, cromosom dynol 8, cromosom dynol 9, cromosom dynol 10, cromosom dynol 11, cromosom dynol 12, cromosom dynol 13, cromosom dynol 14, cromosom dynol 15, cromosom dynol 16, cromosom dynol 17, cromosom dynol 18, cromosom dynol 19, cromosom dynol 20, cromosom dynol 21, cromosom dynol 22, cromosom X dynol, cromosom Y dynol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Casgliad cyflawn o wybodaeth genetig bodau dynol yw'r Genom Dynol. Mae'r wybodaeth hon wedi'i hamgodio fel dilyniadnt DNA oddi fewn i 23 pâr o gromosomau sydd hwythau oddi fewn i gnewyllyn y gell ac mewn moleciwl bychan o DdNA oddi fewn i DdNA meitocondraidd. Ceir gwahaniaeth o tua 0.1% rhwng gwahanol fathau o bobl a gwahaniaeth o 4% rhwng dyn a mwnci.[1]).
Y Genom Dynol oedd y prosiect cyntaf o'i bath a gynhyrchodd y dilyniant cyfan o genomau'r bod dynol. Erbyn 2012 roedd genomau miloedd o bobl wedi cael eu mapio. Defnyddir y data ledled y byd oddi fewn i wyddoniaeth biofeddygol, fforenseg DNA ac anthropoleg yn ogystal â sawl cangen arall o wyddoniaeth. Y gred gyffredinol yw y bydd canlyniadau prosiect y Genom Dynol, yn y dyfodol, yn arwain i ddatblygiadau llwyddiannus mewn meddygaeth a dileu afiechydon genetig. Ceir carfan arall sy'n gwrthwynebu gwaith fel hyn, gan y bydd, yn y pendraw'n creu'r 'bod dynol perffaith'.
Nid yw'r wyddoniaeth yma'n gwbwl ddealladwy gan wyddonwyr, er bod bron pob genyn bellach wedi cael ei adnabod. Mae llawer o waith i'w wneud cyn y deellir yn union sut mae'r dilyniant DNA yn gweithio, beth yw pwrpas biolegol eu protinau a'u cynnyrch RNA.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Varki A, Altheide TK (Dec 2005). "Comparing the human and chimpanzee genomes: searching for needles in a haystack.". Genome Research 15 (12): 1746–58. doi:10.1101/gr.3737405. PMID 16339373.