Neidio i'r cynnwys

Ysgol Sul

Oddi ar Wicipedia
Canu a cherdd mewn ysgol Sul yn Chicago.

Ysgol sy'n darparu addysg grefyddol i blant (ac oedolion hefyd, yn hanesyddol) ac sy'n rhan o eglwys Gristnogol yw ysgol Sul.[1]

Mae'n debyg taw Robert Raikes a drefnodd yr ysgol Sul gyntaf, yng Nghaerloyw ym 1780. Ei nod oedd i ddarparu addysg elfennol yn ogystal ag addysg grefyddol i blant a weithiodd mewn ffatrïoedd ar bob diwrnod arall yr wythnos. Ymledodd y syniad ar draws Prydain, ac yn hwyrach yr Unol Daleithiau. Sefydlwyd Undeb Ysgol Sul Llundain ym 1803 a'r Undeb Ysgol Sul Americanaidd ym 1817. Roedd y mudiad ysgol Sul yn elfen o eglwysi Protestannaidd yn bennaf.[2]

Yng Nghymru sefydlwyd mudiad yr Ysgolion Sul yn negawd olaf y 18g gyda'r bwriad o ddarparu addysg grefyddol ar gyfer y werin, yn blant ac oedolion.[3] Ystyrir yr ysgolion Sul Cymreig fel parhad o fudiad addysg arloeswyr cynnar fel Griffith Jones, Llanddowror. Tyfodd y mudiad yn gyflym ar ddechrau'r 19g dan arweiniad Thomas Charles o'r Bala gan ymledu o eglwysi'r Methodistiaid i'r Bedyddwyr ac eraill. Un o effeithiau pwysicaf yr Ysgol Sul yng Nghymru oedd lledaenu llythrenedd, sef y gallu i ddarllen ac ysgrifennu Cymraeg a hynny mewn cyfnod pan waharddwyd y Gymraeg yn ysgolion y wlad.[3] Un o ganlyniadau hynny oedd twf y wasg Gymraeg yn y 19g ac adfywiad mewn llenyddiaeth Gymraeg a arweiniodd yn y pendraw at dwf Radicaliaeth wleidyddol wrth i'r werin ddeffro. Roedd y mudiad yn ei anterth yn y cyfnod 1870-1920.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Sunday school. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Medi 2014.
  2. Chambers Dictionary of World History (Caeredin, Chambers, 2004), t. 803.
  3. 3.0 3.1 3.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy