Edward Morus Jones
Edward Morus Jones | |
---|---|
Ganwyd | 22 Mai 1944 Llanuwchllyn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | athro, canwr |
Arddull | Pop Cymraeg, Canu gwerin |
Plant | Rhun ap Iorwerth |
Mae Edward Morus Jones (sillafiad bedydd, Edward Morris Jones; ganed mis 22 Mai 1944[1]) yn berfformiwr ac athro ddaeth yn adnabyddus yn yr 1960au wrth ganu deuawd gyda Dafydd Iwan. Bu i'r ddau recordio nifer o ganeuon protest a adnabyddus iawn a hefyd recordio record hir o ganeuon digri a hwiangerddi i blant bach ar ddau albwm Cwm-Rhyd-y-Rhosyn. Bu'n athro ac yn ymgyrchydd dros yr iaith a'r diwylliant Cymraeg.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Mab fferm yw Edward Morus Jones a aned yn Llanuwchllyn, ger y Bala ac astudiodd yn Ysgol y Bechgyn y Bala a'r Coleg Normal ym Mangor.[2] Derbyniodd Edward a’i ddiweddar wraig Gwyneth, a gyfrannodd lawer hefyd i fywyd diwylliannol ac addysgol Cymru, gydnabyddiaeth unigryw yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod 2003. Dyma’r unig dro i ŵr a gwraig gael eu harwisgo ar yr un diwrnod ag Urdd Gwisg Wen Gorsedd y Beirdd, ei huchaf anrhydedd. Yn 2016 priododd Edward â Mary Roberts Glassman Jones.
Darganfu ei angerdd fel addysgwr yn gynnar yn ei fywyd gan ddysgu mewn ysgolion a sefydliadau addysg uwch mewn sawl lleoliad yng Ngogledd a De Cymru.[3]
Mae'n dad i Aelod Senedd Cymru ac arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth a'r darlithydd meddygaeth a lladmerydd dros addysg feddygol yn y Gymraeg, Awen Iorwerth.[4]
Mae’r cysylltiad trawsatlantig ym mywyd Edward wedi’i wella’n fawr gan ei briodas â Mary Roberts Glassman yn 2016. Mae ganddi wreiddiau Crynwyr yn y 1600au yng Nghymru, dim ond deng milltir o’r man lle magwyd Edward.[3]
Cerddoriaeth
[golygu | golygu cod]Un o'i gyfraniadau bwysicaf oedd recordio, gyda Dafydd Iwan, record o gerddoriaeth plant gyda’r caneuon a recordiwyd ar gyfer cyfres “Cwm Rhyd y Rhosyn”.
Mae wedi arwain llawer o Gymanfaoedd Canu dros y blynyddoedd.
Mae'n gadeirydd Eisteddfod y Goron Llandegfan. Enghraifft yw fideo hyfryd o’i arwain plant Ysgol Henblas leol, “Canu Gyda Mr. Edward Morus Jones".
Mae Edward (gyda Gwyneth tan 2012) wedi cymryd rhan mewn deg Gŵyl Gogledd America Cymru (NAFOW).
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]Bu Edward Morus Jones yn perfformio dros ddegawdau, yn fwyaf enwog gyda Dafydd Iwan ond hefyd ar ben ei hun a gydag artistiaid eraill o bryd i'w gilydd fel Mary Hopkin. Noder mai dan yr enw Edward Morris Jones y cofnodwyd y mwyafrif helaeth o'r caneuon yma.[5]
Fel Deuawd Dafydd Iwan ac Edward
[golygu | golygu cod]- Wrth Feddwl Am Fy Nghymru / Wyt Ti'n Cofio? Dafydd Iwan ag Edward - Welsh Teldisc TEP 861 1966
- Caneuon: A1: Wrth Feddwl Am Fy Nghymru, B1: Bryniau Afallon, B2 Meddwl Amanat Ti.
- Mae'n Wlad i Mi Dafydd Iwan ac Edward Welsh Teldisc TEP864 1966, Mae'n Wlad I Mi, Gee Ceffyl Bach
- Caneuon: A1: Mae'n Wlad I Mi, A2 Gee Ceffyl Bach. B1 Crwydro, B2 Mae'r Esgid fach yn Gwasgu.
- Clyw Fy Nghri! / Mae Geneth Fach Yng Nghymru Dafydd Iwan ac Edward Welsh Teldisc TEP866 1967
- Caneuon: A1 Clyw Fy Nghri!, A2 Mae Geneth… |1 Rhaid Yw Dal Yn Ffyddlon, B2 Paid A Chwarae Efo'm Serch B3 Tyrd yn ddi-oed.
- A Chofiwn Ei Eni Ef Dafydd Iwan ac Edward Welsh Teldisc TEP875 1968
- Caneuon: A1 A Chofiwn Ei Eni Ef, A2 Mair, Paid Ag Wylo Mwy B1 Seinier Cyrn, A Chaner Clych! B2 Nos Ym Methlehem.
Caneuon sy'n gyfieithiadau
[golygu | golygu cod]- Mae'n Wlad i Mi gyda Dafydd Iwan cyfieithiad o gân Woody Guthrie Welsh Teldisc TEP 864 1966.[6]
- Rhywbeth Syml Mary Hopkin ac Edward Recordiau Cambrian CEP 420 1968 cyfieithiad o gân Something Stupid gan Carson and Gaile.[7]
- Seinier Cyrn, a Chaner Clych! EP gyda Dafydd Iwan ac Edward Welsh Teldisc 1968 oddi ar record Nadolig Llawen, cyfieithiad o gân Mary's Born Child gan The De Paur Chorus
Albymau i blant
[golygu | golygu cod]- Fuoch chi 'rioed yn Morio? Albwm llyfr llafar o straeon i blant gyda Dafydd Iwan Sain 1005D 1973. [8]
- Cwm-Rhyd-y-Rhosyn Albwm o 35 cân Sain SCD2090 1994. Gweler: Rhestr o ganeuon Cwm-Rhyd-y-Rhosyn Albwm Sain SCD2090 1994.[9]
- Cwm-Rhyd-y-Rhosyn 2 ail albwm gan Sain SCD2452 2004[10]
Record Sengl
[golygu | golygu cod]- Aros, Edrych, Gwrando ! / Ar Y Beic Sengl 7" i hybu diogelwch ffyrdd gan Gyngor Gwynedd, Edward Morris Jones Recordiau Tryfan (is-label o Sain) TRF 103 S 1975
- Caneuon: A1 Aros, Edrych, Gwrando!, A2 Ar Y Beic.B1 Heibio Drws Ein Tŷ Ni, B2 Mr Lolipop.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Edward Morus Jones". Second Hand Store. Cyrchwyd 19 Ebrill 2024.
- ↑ "Edward Morus Jones". Tudalen Facebook Edward Morus Jones. Cyrchwyd 19 Ebrill 2024.
- ↑ 3.0 3.1 "Edward Morus Jones Receives the North America Wales Foundation Heritage Medallion". Gwefan North America Wales Foundation. 2 Medi 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-04-19. Cyrchwyd 2024-04-19.
- ↑ "Beti a'i Phobl Awen Iorwerth". BBC Radio Cymru. 3 Mehefin 2018. Cyrchwyd 19 Ebrill 2024.
- ↑ 5.0 5.1 "Edward Morris Jones". 45Cat. Cyrchwyd 19 Ebrill 2024.
- ↑ "Mae'n Wlad i Mi". Youtube Noson Lawen. 2013.
- ↑ "Rhywbeth Syml". Mary ac Edward, Mary Hopkin Caneuon Cynnar. Cyrchwyd 19 Ebrill 2024.
- ↑ "Fuoch chi 'rioed yn morio". Gwefan Disgos (Sain – SAIN 1005D). Cyrchwyd 24 Ebrill 2023.
- ↑ "Cwm-Rhyd-y-Rhosyn". Youtube. Cyrchwyd 19 Ebrill 2024.
- ↑ "Cwm-Rhyd-y-Rhosyn 2". Youtube. Cyrchwyd 19 Ebrill 2024.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Dewi Llwyd yn Holi Edward ar BBC Radio Cymru 26 Mai 2019
- 'Mae'n Wlad i Mi' gyda Dafydd Iwan ar raglen Noson Lawen 2013
- Caneuon y bu Edward Morris Jones yn canu arnynt ar wefan 45Cat.