Hominidae
Hominidae Amrediad amseryddol: Mïosen-Holosen, | |
---|---|
Dau hominid: Bod dynol (Homo sapiens) a tsimpansî cyffredin (Pan troglodytes) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Primates |
Is-urdd: | Haplorhini |
Uwchdeulu: | Hominoidea |
Teulu: | Hominidae
|
Teip-enws | |
Homo Linnaeus, 1758 | |
Genws | |
Teulu o epaod mawr a nodweddir gan wyneb di-flew gyda gwefusau ymwthiol a dwylo gydag olion bysedd cymhleth ac ewinedd gwastad yw'r Hominidae (hefyd: epaod mawr neu hominidau), sy'n cynnwys saith rhywogaeth mewn 4 genws: Pongo, orangwtang Borneo, orangwtang Sumatra; Gorila, gorila gorllewinol, gorila'r Dwyrain; Pan, y tsimpansî cyffredin a bonobo; a Homo, sef bod dynol.[1]
Gyda darganfyddiadau archaeolegol newydd, mae'r dosbarthiad gwyddonol yn newid yn aml, ac mae union ddiffiniad y gair hominid hefyd wedi newid dros y blynyddoedd. At fodau dynol (Homo) a'u perthnasau agos yn unig y cyfeiriai ar y cyhwyn. Bellach defnyddir y term 'hominin' i'w disgrifio y grŵp hwn. Erbyn yr 21ain ganrif roedd y gair 'hominid' yn cynnwys yr 'epaod mawr' i gyd, gan gynnwys bodau dynol.
Trigodd yr hynafiaid cyffredin agosaf i'r presennol oddeutu 14 miliwn o flynyddoedd yn ôl (CP)[2] pan wahanodd hynafiaid yr orangwtang o linell y tri genera arall.[3] Roedd hynafiaid y teulu Hominidae eisioes wedi gwahanu o deulu'r Hylobatidae (y giboniaid), rhwng 15 a 20 miliwn o flynyddoedd yn ôl.[3][4]
Dosbarthiad
[golygu | golygu cod]Fel rheol, fe'i dosberthir fel a ganlyn:
- Teulu Hominidae
- Is-deulu Ponginae
- Genws Pongo
- Orangwtang Borneo, Pongo pygmaeus
- Pongo pygmaeus pygmaeus
- Pongo pygmaeus morio
- Pongo pygmaeus wurmbii
- Orangwtang Sumatra, Pongo abelii
- Orangwtang Borneo, Pongo pygmaeus
- Genws Pongo
- Is-deulu Homininae
- Llwyth Gorillini
- Genws Gorilla
- Gorila Gorllewinol, Gorilla gorilla
- Gorila Gorllewinol yr Iseldir, Gorilla gorilla gorilla
- Gorila Afon Cross, Gorilla gorilla diehli
- Gorila Dwyreiniol, Gorilla beringei
- Gorila Mynydd, Gorilla beringei beringei
- Gorila Dwyreiniol yr Iseldir, Gorilla beringei graueri
- Gorila Gorllewinol, Gorilla gorilla
- Genws Gorilla
- Llwyth Hominini
- Genws Pan
- Tsimpansî Cyffredin, Pan troglodytes
- Tsimpansî'r Canolbarth, Pan troglodytes troglodytes
- Tsimpansî Gorllewin Affrica, Pan troglodytes verus
- Tsimpansî Nigeria, Pan troglodytes vellerosus
- Tsimpansî Dwyreiniol, Pan troglodytes schweinfurthii
- Bonobo (tsimpansî lleiaf), Pan paniscus
- Tsimpansî Cyffredin, Pan troglodytes
- Genws Homo
- Bod dynol, Homo sapiens sapiens
- Genws Pan
- Llwyth Gorillini
- Is-deulu Ponginae
- ↑ Nodyn:MSW3 Groves
- ↑ Andrew Hill & Steven Ward (1988). "Origin of the Hominidae: The Record of African Large Hominoid Evolution Between 14 My and 4 My". Yearbook of Physical Anthropology 31 (59): 49–83. doi:10.1002/ajpa.1330310505
- ↑ 3.0 3.1 Dawkins R (2004) The Ancestor's Tale.
- ↑ "Query: Hominidae/Hylobatidae". Time Tree. 2009. Cyrchwyd Rhagfyr 2010. Check date values in:
|accessdate=
(help)