Neidio i'r cynnwys

Homo floresiensis

Oddi ar Wicipedia
Homo floresiensis
Amrediad amseryddol: 94–13 Ka
Penglog
Model-gopi o benglog Homo floresiensis
Dosbarthiad gwyddonol (ceir anghytundeb)
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mamalia
Urdd: Deudroedolion
Primates
Teulu: Hominidae
Llwyth: Hominini
Genws: Homo
Rhywogaeth: H. floresiensis
Enw deuenwol
Homo floresiensis
Brown et al., 2004
Flores yn Indonesia, mewn coch

Rhywogaeth o hominin sydd wedi darfod amdani yw Homo floresiensis ("Dyn Flores"; llysenw: "yr hobit" a "Flo"); credir fod y rhywogaeth hon o fewn y genws Homo. Yn 2003 darganfuwyd esgyrn naw unigolyn; credir y byddai'r oedolion yn 3.5 troedfedd (1.1 metr) o daldra ar ynys Flores yn Indonesia. Un benglog cyfan a gafwyd, a adnabyddir fel "LB1".[1][2] Ers hynny ymchwiliwyd yn fanwl i'r gweddillion hyn i geisio penderfynu a ydynt yn rhywogaeth sydd ar wahân i fodau dynol modern.

Mae gan yr hominin hwn gorff ac ymennydd bychan iawn a chredir y bu iddynt oroesi hyd at 12,000 o flynyddoedd CP.[3] Mae hyn yn eu gwneud y rhywogaeth o fodau dynol 'non-H.' i oroesi hiraf, gan oroesi ymhell ar ôl i'r Neanderthal (H. neanderthalensis) beidio a bodoli, sef rhwng tua 39,000 a 41,000 CP.[4]

Wrth ochr y gweddillion hyn roedd offer carreg a ellir eu dyddio i rhwng 94,000 a 13,000 cyn y presennol. Cred ambell ysgolor y gallai hanes yr H. floresiensis fod yn rhan o gof y genedl, yn gysylltiedig gyda chwedloniaeth am fath o dylwyth teg lleol ar yr ynys a alwyd yn 'ebu gogo'.[5]

Cymharu penglogau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Brown et al. 2004
  2. Morwood, Brown et al. 2005
  3. Morwood, Soejono et al. 2004
  4. "BBC News - New dates rewrite Neanderthal story". BBC News.
  5. Gregory Forth, Hominids, hairy hominoids and the science of humanity Archifwyd 2013-09-21 yn y Peiriant Wayback, Anthropology Today, Cyfr. 21 Rhif 3 (Mehefin 2005), tt. 13-17; John D. Hawks, Stalking the wild ebu gogo (24 Mehefin 2005).
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy