Kimchi
Gwedd
Bwyd traddodiadol o Corea ydy kimchi (Hangul: 김치), gimchi, kimchee, neu kim chee, wedi ei wneud o lysiau a sbeisys amrywiol. Caiff ei fwyta fel arfer fel byrbryd (Coreeg: banchan, 반찬) i gyd-fynd gyda phryd o fwyd. Ychwanegir fel cynhwysyn wrth goginio rhai prydau. Daw ei flas cryf o'r broses o eplesu dros gyfnod o amser, er nid yw pob amrywiad yn gwneud hyn. Mae cannoedd o amrywiadau o kimchi, yn aml yn cynnwys un prif gynhwysyn megis bresych Napa, rhuddygl, nionyn gwyrdd neu ciwcymbr.