Plwton (planed gorrach)
Math o gyfrwng | planed gorrach |
---|---|
Màs | 13.05 ±0.07 |
Dyddiad darganfod | 18 Chwefror 1930 |
Rhan o | Pluto System |
Rhagflaenwyd gan | (134339) 5628 T-3 |
Olynwyd gan | (134341) 1979 MA |
Lleoliad | Cysawd yr Haul allanol |
Yn cynnwys | atmosphere of Pluto |
Echreiddiad orbital | 0.24880766 ±1e-08 |
Radiws | 1,185 cilometr, 1,185 cilometr, 1,185 cilometr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Planed gorrach, yn ôl penderfyniad yr Undeb Seryddol Rhyngwladol (IAU) ar 24 Awst 2006 yw Plwton (neu Plwto; symbolau: [1] ac [2]). Cyn hynny roedd Plwton yn cael ei chyfrif fel y lleiaf o'r planedau. Fe'i enwir ar ôl y duw clasurol. Mae'n rhyw dri chwarter maint lleuad y ddaear. Darganfuwyd Plwton gan y seryddwr Americanaidd Clyde Tombaugh yn 1930. Mae gan Blwton bum lloeren: Charon (darganfuwyd yn 1978), Nix a Hydra (darganfuwyd yn 2005), Kerberos (darganfuwyd yn 2011) a Styx (darganfuwyd yn 2012).[3] Mae Plwton yn llai na saith o loerau Cysawd yr Haul: Y Lleuad, Io, Ewropa, Ganymede, Calisto, Titan a Thriton.
Mae ganddo gylchdro o 5,913,520,000 km (39.5 Unedau Seryddol) o'r Haul (fel rheol), yn mesur 2370 km yn nhryfesur, ac yn pwyso 1.27x1022 kg.
Mae cylchdro Plwton yn dra-echreiddig. Weithiau mae'n nes i'r Haul na Neifion (fel oedd e o Ionawr 1979 hyd Chwefror 1999). Mae Plwton yn chwyldroi yn y cyfeiriad cyferbyniol i'r rhan fwyaf o'r planedau eraill. Mae tymheredd arwyneb Plwton yn amrywio rhwng -235 a -210 C. Mae ei chyfansoddiad yn ddirgel, ond mae ei chynhwysedd (rhyw 2g/cm3) yn awgrymu ei bod yn gymysgedd o 70% craig a 30% iâ dŵr, yn debyg i Driton.
Gan fod cylchdro Plwton mor rhyfedd, y mae Plwton weithiau yn ddigon agos at yr Haul i droi rhewogydd ei harwyneb yn nwy a chreu awyrgylch sylweddol wedi ei gyfansoddi bron yn gyfan gwbl gan nitrogen a chanddo wyntoedd a chymylau. Serch hynny, gan ei bod yn gor-blaned nid oes ganddi ddigon o ddwyster i rwymo awyrgylch am gyfnod hir. Felly mae awyrgylch Plwton yn cael ei greu a'i ddileu yn fuan ar yr un pryd.
Cyrhaeddodd y chwiliedydd gofod New Horizons ar 14 Gorffennaf 2015 gan hedfan 12,500 km (7,800 milltir) uchlaw arwyneb Plwton gan gymryd y lluniau manwl cyntaf o'r blaned gorrach.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ JPL/NASA (2015-04-22). "What is a Dwarf Planet?". Jet Propulsion Laboratory. Cyrchwyd 2022-01-19.
- ↑ John Lewis, gol. (2004). Physics and chemistry of the solar system (arg. 2). Elsevier. t. 64.
- ↑ Sharp, Tim (2012) Pluto's Moons: Five Satellites of Pluto, space.com. Adalwyd 14 Gorffennaf 2012.