Neidio i'r cynnwys

Siawarma

Oddi ar Wicipedia
Siawarma
Mathstuffed flatbread, wrap, byrbryd Edit this on Wikidata
Deunyddcig, Saws, llysieuyn, Bara pita, lavash, cig eidion, Twrci Edit this on Wikidata
Label brodorolشاورما Edit this on Wikidata
GwladLefant Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 g Edit this on Wikidata
Yn cynnwyslavash, cig, Saws, llysieuyn, Bara pita, Bara tabwn, Cardamom, cumin seed, Paprica, cabbage, Morkovcha Edit this on Wikidata
Enw brodorolشاورما Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Siawarma

Mae Siawarma (/ʃəˈwɑːrmə/; Arabeg: شاورما‎), hefyd shawarma, shaurma, chawarma a sillafiadau eraill, yn bryd bwyd cig o'r Dwyrain Canol sy'n seiliedig ar y cebab doner.

Yn wreiddiol o gig oen neu dafad, gall y siawarma gyfoes gynnwys cyw iâ, twcri, cig eidion neu cig lle. Torrir y cig yn dafellau tennau a'i llwytho i greu tŵr neu corn ar rhost-droellwr neu bêr-droell.[1][2][3] Caiff tafellau tennau o'r côn sydd wedi eu cogion gan y tân, eu heillio oddi ar y wyneb wrth i'r tŵr gylchroi'r ddi-stop.[4][5]

Mae'r siawarma yn un o brydau bwyd stryd mwyaf poblogaidd y byd, yn enwedig yng ngwledydd y Lefant a phenrhyn Arabia.[6]

Siawarma yn Libanus, 1950

Ymddangosodd yr arfer o greu tŵr o gig wedi tafellu eu goginio a'i ber-droellu yn Nhwrci adeg yr Ymerodraeth yr Otomaniaid yn y 19g, lle galwyd hi yn döner kebap.[7][8] Shawarma, fel gyros, yn dod ohono.[9] Cyflwynwyd y siawarma i Fecsico gan fewnfudwyr o'r Dwyrain Canol lle ddatblygodd ar ddechrau'r 20g fewn i'r tacos al pastor.

Etymoleg

[golygu | golygu cod]

Mae Siawarma yn ymgais Arabeg ar y gair Twrceg çevirme tʃeviɾˈme 'troi', sy'n cyfeirio at y droi'r rhost-droell/bêr-droell cig.[10] Mae'r geiriau Twrceg a Groeg, döner a gyros, hefyd yn cyfeirio at 'droi'.

Paratoi

[golygu | golygu cod]

Caiff Siawarma ei baratoi wrth dorri darnau tennau o gig oen, dafad, eidion, cyw iâr, neu dwrci wedi eu marinadu. Bydd y tafelli'n cael eu llwytho ar sgiwer sydd oddeutu Lua error in Modiwl:Convert at line 1851: attempt to index local 'en_value' (a nil value). o uchder. Caiff braster oen ei ychwanegu er mwyn ategu at y blas a lleithder. Bydd y sgiwer llawn cig yn troi'n araf o flaen tân gan rhostrio'r haen allanol. Caiff siafins o'r cig eu torri gan gyllell hir finiog, neu, teclyn drydannol pwrpasol, â llaw[11] neu beirianyddol.[12]

Caiff y siawarma ei weini ar blât ond mae'n fwy arferol fel brechdan wrap tu fewn bara fflat fel laffa neu bara pita. Gweinir yn aml gyda thomatos, ciwcymber, winwns, llysiau picledig a saws tahini neu saws mango amba.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Albala, Ken, gol. (2011). Food Cultures of the World Encyclopedia. ABC-CLIO. tt. 197, 225, 250, 260–261, 269. ISBN 9780313376269 – drwy Google Books.
  2. Davidson, Alan (21 August 2014). The Oxford Companion to Food. Oxford University Press. t. 259. ISBN 9780191040726 – drwy Google Books.
  3. 3.0 3.1 Marks, Gil (2010). Encyclopedia of Jewish Food. John Wiley & Sons. ISBN 9780544186316 – drwy Google Books.
  4. Philip Mattar (2004). Encyclopedia of the Modern Middle Eastern (arg. Hardcover). Macmillan Library Reference. t. 840. ISBN 0028657713. Shawarma is a popular Levantine Arab specialty.
  5. John A La Boone III (2006). Around the World of Food: Adventures in Culinary History (arg. Paperback). iUniverse, Inc. t. 115. ISBN 0595389686. Shawarma - An Arab sandwich similar to the gyro.
  6. Street food around the world : an encyclopedia of food and culture. Santa Barbara, California. tt. 18, 339. ISBN 1598849557. OCLC 864676073.
  7. Eberhard Seidel-Pielen (May 10, 1996). "Döner-Fieber sogar in Hoyerswerda" [Doner fever even in Hoyerswerda]. ZEIT ONLINE (yn German). Cyrchwyd May 6, 2016.CS1 maint: unrecognized language (link)
  8. Kenneth F. Kiple, Kriemhild Coneè Ornelas, eds., Cambridge World History of Food, Cambridge, 2000. ISBN 0-521-40216-6. Vol. 2, p. 1147
  9. Aglaia Kremezi and Anissa Helou, "What's in a Dish's Name", "Food and Language", Proceedings of the Oxford Symposium on Food and Cookery, 2009, ISBN 190301879X
  10. Reporter, Mohammed N. Al Khan, Staff (31 July 2009). "Shawarma: the Arabic fast food". gulfnews.com.
  11. https://www.youtube.com/watch?v=RzEt_C9l1AY
  12. https://www.youtube.com/watch?v=YhSnkPiKAdA

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy