Neidio i'r cynnwys

Môr-wennol gyffredin

Oddi ar Wicipedia
Môr-wennol gyffredin
Sterna hirundo

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Laridae
Genws: Sterna[*]
Rhywogaeth: Sterna hirundo
Enw deuenwol
Sterna hirundo
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Môr-wennol gyffredin (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: môr-wenoliaid cyffredin) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Sterna hirundo; yr enw Saesneg arno yw Common tern. Mae'n perthyn i deulu'r Gwylanod (Lladin: Laridae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn S. hirundo, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yng Ngogledd America, Asia, Ewrop, Affrica ac Awstralia. Ar ôl nythu mae'n symud tua'r de i aeafu.

Gwyn yw'r rhan fwyaf o'r plu, gyda llwyd ar y cefn ac ar ran uchaf yr adenydd. Mae'r pig yn goch gydag arlliw oren, a darn tywyll ar y blaen, yn wahanol i Fôr-wennol y Gogledd sydd â phig goch dywyll. Mae gan Forwennol y Gogledd gynffon hirach a choesau byrrach hefyd. Mae'r Forwennol Gyffredin rhwng 34 a 37 cm o hyd a 70–80 cm ar draws yr adenydd. Yn yr haf mae cap du ar y pen, ond yn y gaeaf mae'r talcen yn troi'n wyn.

Fe'i gwelir ar arfordir Cymru hefyd.

Mae'r môr-wennol gyffredin yn perthyn i deulu'r Gwylanod (Lladin: Laridae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Cors-wennol Ddu Chlidonias niger
Gwylan Gefnddu Fawr Larus marinus
Gwylan Gefnddu Leiaf Larus fuscus
Gwylan Goesddu Rissa tridactyla
Gwylan y Gogledd Larus hyperboreus
Gwylan y Gweunydd Larus canus
Gwylan y Penwaig Larus argentatus
Môr-wennol bigddu Thalasseus sandvicensis
Môr-wennol bigfelen Thalasseus bergii
Môr-wennol fawr Thalasseus maximus
Môr-wennol ffrwynog Onychoprion anaethetus
Môr-wennol fraith Onychoprion fuscatus
Môr-wennol gribog fach Thalasseus bengalensis
Sgimiwr Affrica Rynchops flavirostris
Sternula nereis Sternula nereis
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Sterna hirundo hirundo

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Safonwyd yr enw Môr-wennol gyffredin gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy